{ko fel i torodd y bwa wrth geisio lladd madyn}
1 Doer oeddwn dioer eddyl
2 dan y gwydd gwae'r dyn ai gwyl
+1 [yn aros dan brenn araul
+2 ag aur a main gwrwm aul]
3 gorsefyll dan gyrs vfydd
4 ag aros gwen goris gwydd
5 [mal yr oeddwn seilwn sail
6 lonydda dan lwyn addail]
7 gwnaeth ar vy hwyl ym wylaw
8 gwelwn pan edrychwn draw
9 llvn gwrab lle ni garwn
10 llwynog coch ni char lle'n cwn
11 yn eiste val dinastwrch
12 gaer i ffau ar gwrr i ffwrch
13 anelais rhwng vy nwylaw
14 vwa yw drud a vv draw
15 ar vedr val gwr arvodus
16 ar ael y rhiw arial rhus
17 arf i redeg ar vrodir
18 i vwrw a saeth ovras hir
19 tynnais o eurgais ergyd
20 heb y gern a heibio i gyd
21 mav och aeth y mwa i
22 yn drichnap anian drychni
23 llidiais nid arswydais hynn
24 arth ovidus wrth vadyn
25 gwr yw ef a garai iar
26 a chweg edn a chig adar
27 gwr yw ddilid gern ddolef
28 garw i lais ai garol ef
29 gwridog yw ymlaen grodir
30 gwedd ab ymhlith y gwydd ir
31 [375] lluman brain gerllaw min bryn
32 llamwr erw lliw marworyn
33 drych nod brain a phiod phair
34 draig vnwedd daroganair
35 cynnwr vrynn cnowr iar vras
36 cnv diareb cnawd eirias
37 taradr daeargadr dorgau
38 tanllestr ar gwrr fenestr fau
39 bwa latwm didrwm draed
40 gevel vnwedd gylvinwaed
+3 [cyfarth a wnair ci efydd
+4 byrglust oedd borau glas dydd]
41 nid hawdd i mi ddilid hwn
42 ai duy annedd hyd annwn
43 deugwae r talwrn lle digwydd
44 delw ci'n y dolwg gwydd
45 rhodiwr coch rhydaer i caid
46 rhedai 'mlaen rhawd ymlyniaid
+5 llamwr erw lliw marwori
47 llym i ruthr llamwr eithin
48 llewpart a dart yn i din
Dauid ap Gwilim